Nodyn Gweithdrefnol i’r Pwyllgor Menter a Busnes – E&B(4)-37-12

Cynnig i sefydlu is-bwyllgor i ystyried Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

1. Mae Aelodau yn ymwybodol o ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ sy’n gofyn i Gadeiryddion y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod tystiolaeth bellach ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012.

Cefndir

 

2. Cafodd Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 eu gosod ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2012. Mae’r ddadl ar y rheoliadau hyn wedi cael ei gohirio fel y gall y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol drafod y dystiolaeth unwaith eto.

3. Mae’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ wedi gwahodd y ddau Bwyllgor i gwrdd mewn sesiwn gyda’i gilydd i gymryd tystiolaeth a chhoeddi un adroddiad ar eu canfyddiadau. Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgor nac yn caniatàu i bwyllgorau gyfarfod ar y cyd. Fodd bynnag, o dan Reol Sefydlog 17.53, gall pwyllgorau’r Cynulliad gydredeg. Yn ymarferol, mae hyn yn galluogi mwy nag un pwyllgor i glywed yr un dystiolaeth tra byddant yn parhau i gael eu creu fel endidau ar wahân.

4. Mae’r ddau bwyllgor wedi cytuno[1] i wneud y gwaith hwn ar yr un pryd ac nad yw’n ymarferol nac yn gymesur disgwyl i’r 20 Aelod gymryd rhan. Gwahoddwyd y ddau bwyllgor, heddiw, i sefydlu is-bwyllgorau gyda phum aelod yr un. Bydd y ddau is-bwyllgor yn cydweithio i chwilio am dystiolaeth ac yn cyhoeddi eu canfyddiadau mewn un adroddiad. Bydd yr is-bwyllgorau’n cael eu diddymu ar ôl i’r rheoliadau gael eu hystyried gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.

5. Mae Rheol Sefydlog 17.17 yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i benderfyniad i sefydlu is-bwyllgor bennu ei aelodaeth, ei gadeirydd, ei gylch gorchwyl a’i gyfnod.

Cam i’w gymryd

6. Gwahoddir y Pwyllgor i gytuno ar y cynnig a ganlyn:

Bod y Pwyllgor yn penderfynu, o dan Reol Sefydlog 17.17, sefydlu is-bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012;

mai cylch gwaith yr is-bwyllgor hwnnw yw cymryd tystiolaeth, ar yr un pryd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012.  Bydd yr is-bwyllgor yn ceisio cytuno ar gynnwys adroddiad a lunnir ar y cyd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn llywio trafodaethau’r Cynulliad ar y rheoliadau. Bydd yr Is-bwyllgor yn cael ei ddiddymu unwaith y bydd y Cynulliad wedi trafod y rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn;

 

bod aelodaeth yr is-bwyllgor yn cynnwys Alun Ffred Jones, Eluned Parrot, Nick Ramsay, David Rees, Ken Skates, gyda Nick Ramsay wedi’i ethol yn Gadeirydd.

 

Cwestiynau cyffredin:

 

Pam mae dau is-bwyllgor yn cael eu sefydlu?

 

Gweler paragraffau 3 a 4 uchod.

 

Pam yr ymgynghorwyd â’r grwpiau plaid ynghylch yr enwebiadau ar gyfer yr is-bwyllgorau?

 

Nid oes gofyniad o dan Reol Sefydlog 17.17 i is-bwyllgorau adlewyrchu’r cydbwysedd rhwng y pleidiau, a mater i’r ddau bwyllgor perthnasol yw penderfynu ar aelodaeth a chadeiryddion yr is-bwyllgorau. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith craffu ar y cyd, a darpariaethau Rheol Sefydlog 17 mewn perthynas â’r cydbwysedd rhwng y grwpiau gwleidyddol, gwahoddwyd y grwpiau i enwebu aelodau ar gyfer yr is-bwyllgorau sydd â phum aelod yr un mewn ffordd a fydd yn arwain at gydbwysedd pleidiol (hynny yw, pum aelod Llafur, dau aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig, dau aelod Plaid Cymru ac un aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol). Mae’r grwpiau bellach wedi hysbysu’r clercod ynghylch yr enwebiadau ar gyfer y ddau is-bwyllgor.

Pam mae’r ddau bwyllgor yn ethol cadeiryddion yr is-bwyllgorau?

 

Bydd y ddau is-bwyllgor sydd â phum aelod yr un yn endidau ar wahân a bydd y naill a’r llall yn adrodd yn ôl i’w riant-bwyllgor. Gan hynny, bydd gan y ddau is-bwyllgor eu cadeiryddion eu hunain, fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 17.17.

 

Pwy fydd yn cadeirio cyfarfodydd y ddau is-bwyllgor sy’n cydredeg?

 

Mater i gadeiryddion y ddau is-bwyllgor fydd penderfynu ymysg ei gilydd pwy sy’n cadeirio’r cyfarfodydd sy’n cydredeg, a hysbysu’r clercod ynghylch hynny. Bydd Cadeiryddion yr is-bwyllgorau a enwebyd yn cadeirio’r cyfarfodydd sy’n cydredeg am yn ail, a hynny ar sail eu penderfyniad hwy.

 

Sut y cytunir ar ganlyniadau’r cyfarfodydd sy’n cydredeg?

 

Y 10 aelod fydd yn penderfynu ar ganlyniadau’r cyfarfodydd sy’n cydredeg pan fyddant yn cwrdd. Bydd unrhyw adroddiadau yn cael eu cyfeirio yn ôl i’w rhiant-bwyllgor i’w gadarnhau yn unol â Rheol Sefydlog 17.19.

 

Beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith?

 

Bydd y ddau is-bwyllgor yn cwrdd ar yr un pryd ddydd Mercher 5 Rhagfyr i drafod y cylch gorchwyl, ymgynghoriad ysgrifenedig, rhestr o dystion ac amserlen dros dro, ac i gytuno arnynt. Mewn llythyr, dyddiedig 5 Tachwedd, nododd y Gweinidog, o ystyried faint o ddiddordeb a ddangoswyd yn yr ymchwiliad o fewn y Senedd, a thu hwnt, y byddai’n ddefnyddiol iawn cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl. Caiff yr holl gyfnodau sydd ar gael yn yr amserlen fusnes eu hystyried yn gyfnodau posibl i’r is-bwyllgorau gymryd tystiolaeth a chytuno ar adroddiad cyn gynted â phosibl yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Y Gwasanaeth Pwyllgorau

29 Tachwedd 2012

----

 



[1] Ystyriodd y ddau bwyllgor y mater ar 17 Hydref 2012.